Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 26
Medi 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Datganiad gan y Llywydd
Am 13.30, gwnaeth y Llywydd ddatganiad am y ddeiseb ynghylch y terfyn cyflymder 20mya a’r broses ar gyfer ystyried deisebau.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ymrwymiadau sero net
(45 munud)
4 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cadernid y System Iechyd a Gofal Cymdeithasol
(45 munud)
5 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Siarter Iaith: Fframwaith Cenedlaethol
(30 munud)
6 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Costau Byw
(30 munud)
7 Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth: Cadw: ennyn diddordeb cymunedau mewn treftadaeth
(30 munud)
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 27 Medi 2023